Description: Heather logo portraitCynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Rhagfyr 2012

 

 


Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)

1.    Ar 3 Rhagfyr 2012, cafodd Bil Llywodraeth, ‘Bil Trawsblannu Dynol (Cymru), ei gyflwyno yn y Cynulliad.   

2.    Ar 20 Tachwedd 2012, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.

3.    Yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 22 Mawrth 2013.

4.    Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 7 Mehefin 2013, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.